Blinais ar afonydd Babel, Nid oes yno ond wylo i gyd: Llais telynau hyfryd Sïon, Sydd yn cysson ddenu 'mryd; Tyr'd â ni, yn dorf gariadus, O gaethiwed Babel fawr: Ac nes b'om ar fynydd Sïon, Nâd in' orphwys mynyd awr. Dyn dyeithr ydwyf yma, Draw mae'm genedigol wlad, Draw i'r moroedd mawr tymhestlog Ac o fewn y Ganaan rad; 'Stormydd blin o demtasiynau A'm curasant i yn bell; Tyred, awel fwyn y deau, Chwyth fi i'r baradwys well.William Williams 1717-91 Tôn [8787D]: Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74) gwelir: Dyn dyeithr ydwyf yma Gosod babell yng ngwlad Gosen O Iachawdwr pechaduriaid Pam y caiff bwystfilod rheibus? |
I wearied of Babylon's rivers, There is nothing there but all weeping: The voice of Zion's lovely harps Were constantly drawing my attention: Bring us as a loving multitude From the captivity of great Babylon, And until we are on mount Zion, Do not let us rest for a minute of an hour. A strange man am I, Distant is my native land, Over to the great tempestuous seas And within free Canaan; Vexing storms of temptations Which have beaten me distantly; come, gentle breeze of the south, Blow me to the better paradise.tr. 2009 Richard B Gillion |
Here I am a passing stranger, Far away my native land; O'er the wide and stormy ocean, Where lies Canaan's happy strand, Raging storms of strong temptation Drove me from my home astray: Bear me, balmy southern breezes, To its verdant shores away!1854 Joseph Morris
|